About Holding Space

Ar gyfer y cynulliad personol rhad ac am ddim hwn, byddwn yn cadw lle i artistiaid, trefnwyr, gweithwyr iechyd, diwylliannol a chyfiawnder mudol ddod at ei gilydd i ystyried rôl celf a chreadigrwydd a'i heffaith ar iechyd meddwl a llesiant ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Bydd y diwrnod yn cael ei strwythuro o amgylch sgyrsiau panel byr gyda siaradwyr gwadd a thrafodaethau mewn grwpiau bach, gan gynnig cyfle i fyfyrio ar sut beth yw arfer da ac i drafod rhai o’r cyfleoedd a’r heriau y gellir eu hwynebu wrth ddatblygu prosiectau creadigol gan a gyda chymunedau sydd newydd gyrraedd gyda ffocws ar fynd i’r afael ag anghenion iechyd meddwl. Byddwn hefyd yn ystyried y cymorth meddwl sydd ei angen ar ymarferwyr creadigol yn y cyd-destunau hyn a’r materion systemig ehangach sy’n effeithio’n negyddol ar iechyd meddwl.
Bydd mwy o fanylion am raglen lawn y diwrnod yn cael eu rhannu yn fuan.
Cynhyrchir y digwyddiad hwn gan Counterpoints Arts mewn cydweithrediad â TEAM.
-
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, cysylltwch â philscully@nationaltheatrewales.org i gadw lle
Mae rhai bwrsariaethau teithio ar gael. Cysylltwch â tom@counterpoints.org.uk
Am y trefnwyr
Counterpoint Arts
Mae Counterpoints Arts yn sefydliad cenedlaethol blaenllaw ym maes y celfyddydau, ymfudo a newid diwylliannol. Rydym yn cefnogi’r celfyddydau gan ac o gwmpas ffoaduriaid ac ymfudwyr ac rydym yn cynhyrchu amrywiaeth o raglenni yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys Wythnos Ffoaduriaid, PopChange a gŵyl Platforma. Mae ein gwaith yn digwydd ar y groesffordd rhwng hinsawdd, cyfiawnder hiliol, iechyd meddwl a dadleoli. Yn ganolog i'n cenhadaeth yw ein cred fod celf yn llawer mwy na phrofiad esthetig; y gall agor mannau i bobl siarad ar draws gwahaniaethau, ysbrydoli cyfranogiad cymunedol a meithrin cymdeithas fwy tosturiol.
Mae ein llinyn newydd o waith ar iechyd meddwl yn adeiladu ar ganfyddiadau adroddiad a gyhoeddwyd gennym y llynedd, o'r enw Creatively Minded and Refugees, a gomisiynwyd gan Sefydliad Baring fel rhan o'u cyfres 'Creatively Minded'.
O ystyried y realiti heriol a chymhleth y mae llawer o artistiaid a chymunedau yn ein rhwydwaith wedi gorfod eu llywio, mae iechyd meddwl fel arfer wedi bod ymhlyg yn ein prosiectau; o gael eich gorfodi i adael eich mamwlad a cholli eich cymuned i lywio system loches astrus a chael eich croesawu gan ‘amgylchedd gelyniaethus’, mae’n anochel y gall y ffactorau hyn gael effeithiau dwysach, ac yn aml niweidiol, ar iechyd meddwl a llesiant unrhyw un. Dros y ddwy flynedd nesaf, rydym yn bwriadu rhoi’r sgwrs am iechyd meddwl wrth galon ein gweithgarwch a’n rhaglenni.
TEAM Collective Cymru
Mae TEAM Collective Cymru yn credu yng ngrym creadigrwydd i ysgogi newid cymdeithasol, gan gynnig yr offer a’r llwyfannau i bobl fynegi eu hunain, rhannu eu straeon a siapio eu cymunedau.
Mae ymgysylltu creadigol yn ganolog i waith TEAM, gan gofleidio ystod eang o ffurfiau celfyddydol ac ymgysylltu â grŵp amrywiol o bobl greadigol i adeiladu cysylltiadau dwfn, ystyrlon o fewn cymunedau ledled Cymru.
Gyda phersbectif Cymru gyfan a chydweithrediadau sy'n cynrychioli diwylliant Cymru yn fyd-eang, mae gwaith TEAM yn ddull arloesol sy'n cael ei yrru gan y gymuned at theatr, addysg, y celfyddydau a cherddoriaeth, sy'n canolbwyntio ar ymgysylltu a chyd-greu cynhwysol ar lawr gwlad.
Wrth galon ein gwaith mae ymrwymiad i fynediad a llesiant. Adlewyrchir hyn ym mhopeth a wnawn, o feithrin prosesau creadigol ac ehangu cyfleoedd, i herio safbwyntiau traddodiadol am greadigrwydd. Mae ein project diweddarJoy Club gyda'r seicolegydd cwnsela Annie Beyer yn enghraifft wych o hyn. Yn y prosiect hwn, daeth 8 dieithryn ynghyd i archwilio'r cysyniad o lawenydd mewn ffyrdd unigryw, dan arweiniad creadigrwydd.