Up My Street Audio Tour

Prosiect 'Team Collective' gyda Julia Thomas

Dewch am dro i lawr Heol y Frenhines ar daith ymdrochol lle mae ffuglen, hanes a phethau bob dydd yn gwrthdaro. Mae Up My Street yn dathlu stryd yng nghanol Caerdydd, lle mae straeon newydd yn cael eu geni bob dydd.

O fawredd di-raen Canolfan Siopa Capitol – a fu unwaith yn symbol o siopa modern – i bresenoldeb pwerus cerflun Aneurin Bevan, lle mae torfeydd yn ymgynnull i sefyll dros yr hyn sy’n bwysig, mae gan Heol y Frenhines lawer mwy i’w ddweud nag y byddech yn ei ddisgwyl.

Dyma gyfle i brofi’r haenau o hanes, yr eiliadau a ddiffiniodd y stryd, a’r bobl y mae eu lleisiau’n atseinio trwy amser. Crëwyd gyda chyfranogwyr Invisible Cities a phrosiect Story y Wallich sydd wedi cael eu heffeithio gan ddigartrefedd.